Partneriaid a Phrosiectau
Mapio
Rydym yn casglu data ar gyfer nifer o wahanol brosiectau mapio. Mae'r rhain yn cynnwys Falling Fruit, sef map porthiant byd-eang, arolwg Ymddiriedolaeth y Bobl ar gyfer Rhywogaethau mewn Perygl: Traditional Orchard Survey, a Chanolfan Cofnodion Amgylcheddol Lleol Cymru gan ddefnyddio ap ffôn LERC. Gall unrhyw un ychwanegu at y prosiectau mapio hyn: cymerwch olwg arnynt i weld a oes un y gallwch gyfrannu ato. Po fwyaf y bobl sy'n ychwanegu atynt, gorau oll y byddant yn dod.
Ein prif ddosbarthwr yw FareShare Cymru. Dyma gangen Caerdydd o'r elusen genedlaethol sy'n casglu bwyd dros ben, yn bennaf o ffermydd ac archfarchnadoedd, ac yn eu dosbarthu i fanciau bwyd a mentrau rhannu bwyd eraill. Mae FareShare Cymru yn casglu ac yn dosbarthu bwyd ddwywaith yr wythnos yn Abertawe.
Growing Real Food For Nutrition (Grffn)
Rydym yn cydweithio â Grffn i fesur dwysedd maeth y ffrwythau a ddewiswn ar bob safle fel y gallwn gymharu ffrwythau o wahanol safleoedd a monitro sut mae eu gwerth maethol yn newid ar hyd y blynyddoedd nesaf.
Rydym yn tueddu i dybio bod pob afal fwy neu lai yn union yr un fath, gyda rhywfaint o amrywio efallai, yn ôl y gwahanol amrywiaethau neu’r dull tyfu e.e. confensiynol neu organig. Credwn hefyd fod y gwerthoedd maethol hyn yn sefydlog. Mae'r ddwy dybiaeth hyn yn anghywir mewn gwirionedd. Yn wir, ceir amrywiadau mawr ymhlith cnydau tebyg sy'n cael eu hachosi gan wahaniaethau yn y pridd y maent wedi tyfu ynddo. Gan fod dwysedd maeth cnwd yn rhoi awgrym o iechyd y pridd, mae'n bwysig mabwysiadu dulliau tyfu adfywiol sy'n gwella iechyd y pridd, sydd yn ei dro yn cynhyrchu cnydau â maeth dwys. Mae Grffn yn awyddus i dyfwyr ffrwythau yn Abertawe ymuno â'i daith, gan ddysgu tyfu a mesur bwyd â maeth dwys. Mae Elizabeth Westaway, un o sylfaenwyr Grffn, yn byw yn Abertawe.