Wrth wirfoddoli gyda Chyfoeth Y Coed, gofynnwn i chi gadw at y canllawiau canlynol.
- Ein cenhadaeth yw casglu ffrwythau ffres er mwyn lleihau gwastraff, gwella iechyd, a darparu mynediad dibynadwy i fwyd maethlon i'n cymdogion mewn angen. Dylech ymddwyn mewn ffordd sy'n gyson â'r genhadaeth honno wrth wirfoddoli gyda ni.
- Os na allwch fynychu, ar ôl cofrestru ar gyfer cynhaeaf, dylech ganslo eich lle ar y rhestr waith. Mae hyn yn ein helpu i sicrhau bod gennym griw llawn o wirfoddolwyr ar gyfer y cynhaeaf dan sylw.
- Byddwch yn brydlon. Bydd arweinydd y cynhaeaf yn rhoi hyfforddiant diogelwch ar ddechrau'r digwyddiad ac nid ydym am i chi golli unrhyw beth.
- Er diogelwch pawb, mae ein digwyddiadau yn ddi-fwg ac yn ddi-alcohol.
- Mae llawer o'r coed rydym yn eu cynaeafu ar eiddo preifat, fel arfer mewn gerddi. Mae'r perchennog neu'r preswylydd wedi rhoi caniatâd i ni fynd i mewn i dynnu ffrwythau. Byddwch yn barchus o'r ffaith mai cartref rhywun yw hwn.
- Gwrandewch ar yr hyfforddiant diogelwch a roddir gan arweinydd y cynhaeaf, a’i ddilyn.
- Mae arweinydd y cynhaeaf wedi cael ei hyfforddi i oruchwylio'r digwyddiad er mwyn sicrhau bod gwirfoddolwyr yn cael amser cynhyrchiol a phleserus. Dilynwch ei gyfarwyddiadau/chyfarwyddiadau.
Diolch i chi am wirfoddoli gyda ni!