Adnoddau

Rhannu bwyd

Mae tlodi bwyd yn broblem fawr yn Abertawe. Os oes gennych chi ormod o fwyd, beth am ystyried ei rannu gydag un o’n banciau bwyd, Hyb cymunedol Tŷ Fforest, Matt’s Cafe neu Oergell Gymunedol y Goleudy.

Coed ffrwythau

Gwybodaeth: Mae gan y Prosiect Perllannoedd wybodaeth am bob agwedd ar dyfu a gofalu am goed afalau a gellyg, gan gynnwys tocio, clefydau, hyrwyddo bioamrywiaeth, creu suddion fel cymuned, creu seidr, perllannoedd yn y cwricwlwm a llawer mwy.

Pryd i gynhaeafu eich ffrwythau: edrychwch ar y dudalen ddefnyddiol hon gan y Prosiect Perllannoedd ar sut i wybod pryd mae afalau a gellyg yn aeddfed ac yn barod i’w pigo.

Tocio: Mae Chloe Ward wedi ysgrifennu llyfryn gwych ar docio coed afalau a gellyg sydd ar gael yma ac yma.

Impio gerila a chyfarwyddiadau impio gerila.

Prynu: nid y pob coeden yn ffynnu yn ein hinsawdd llaith yn Abertawe. Rydym ni’n awgrymu archebu gan feithrinfa sy’n arbenigo mewn amrywiaethau sy’n addas i amodau lleol. Lle da i ddod o hyd i’r rhain yw drwy chwilio am bobl sy’n tyfu coed ffrwythau yn Grown In Wales.

Lleol: Mae Cyfoeth y Coed a changen Abertawe o’r Prosiect Perllannoedd yn cydweinyddu grŵp Facebook Hyb Perllan Abertawe / Swansea Orchard Hub. Grŵp cyhoeddus yw hwn ac mae ar agor i unrhyw un â diddordeb mewn coed ffrwythau neu hyd yn oed cnau. Galwch heibio!

Hanes: mae llyfr “Afalau Cymru” Carwyn Graves ar gael yn uniongyrchol gan y cyhoeddwr yma. Mae gan Lyfrgell Abertawe sawl copi hefyd. Mae erthygl ddiweddar ar hanes afaleg, sef astudio ffrwythau, yng Nghymru a Lloegr gan Barry Masterson yn dangos pa mor agos yw cysylltiad amaethu afalau a gellyg â seidr a diod ellyg, ac mae’n darparu cyd-destun wedi’i grynhoi ar gyfer gwaith Graves

Adfer amrywiaethau etifeddiaeth: Yn 2016, dechreuodd Prifysgol De Cymru a Chymdeithas Diod Ellyg a Seidr Cymru brosiect i ddod o hyd i amrywiaethau o afalau a gellyg Cymru a oedd wedi’i colli. Roedd y prosiect yn llwyddiant mawr a nodwyd 73 o amrywiaethau a oedd wedi’u colli gan brofion genetig. Mae’r canlyniadau hy wedi’u dogfennu yn The Welsh Pomona of Welsh Cider Apples and Perry Pears.

Sefydlu eich grŵp casglu ffrwythau eich hun: Mae The Abundance Handbook, y gellir ei lawrlwytho am ddim, yn adnodd ardderchog. Rydym ni hefyd yn argymell i chi ymgynghori â’ch Canolfan Gwasanaethau Gwirfoddol leol gan fod gweithio gyda gwirfoddolwyr yn cynnwys sawl cyfrifoldeb cyfreithiol. Dylech chi hefyd ystyried cael yswiriant i’ch amddiffyn yn achos damweiniau.

Pecyn casglu ffrwythau: ffyn casglu, ysgolion (mae rhai grwpiau yn dewis osgoi ysgolion oherwydd y premiwm yswiriant uwch), blychau neu gawelli bas i storio’r afalau a sisyrnau tocio (gall coed nad ydynt wedi’u tocio ers blynyddoedd feddu ar frigau a changhennau sydd wedi’u drysu’n aml, sy’n gwneud mynediad gyda ffon gasglu neu ysgol yn anodd iawn. Er mwyn ailddefnyddio, edrychwch ar yr offer wedi’u hadnewyddi gan Tools for Self Reliance yng Nghrucywel.