Amdanom ni
Dechreuodd y prosiect hwn gyda grŵp bach o bobl a ddechreuodd drefnu o dan yr enw "Sweet Pickings" ar ddiwedd 2020. Wrth i ni ddechrau ein hymchwil, fe wnaethom sylweddoli'n fuan nad ni oedd yr unig rai. Roedd prosiectau casglu ffrwythau fel yr un yr oeddem ni’n ei ragweld eisoes yn bodoli ar hyd a lled y wlad a dros y byd!
I ddechrau gwnaethom restr o goed na chesglir eu ffrwythau, gan ofyn am gymorth y cyhoedd drwy'r cyfryngau cymdeithasol a sefydlu grŵp Facebook. Gyda Chanolfan yr Amgylchedd Abertawe fel ein cartref ariannol, roeddem yn ddigon ffodus i dderbyn grantiau bach gan Ein Cynllun Cymdogaeth a chymwynaswr dienw yng Nghlydach, a dalodd am rywfaint o’r offer a’r costau gweinyddol ar y dechrau.
Ym mis Mawrth cynhaliwyd ymgyrch cyllido torfol drwy'r fenter llywodraeth leol Cyllido Torfol Abertawe rhwng mis Ebrill a chanol mis Mehefin. Roedd hon yn her fawr ond buom yn ddigon ffodus i dderbyn £4,300, hanner ein targed, gan Gyngor Abertawe a rhoddion hael gan Coastal Housing, Gower Power Co-op CIC, nifer o Gynghorwyr Abertawe a'r bobl garedig sy'n byw yma. Yn y diwedd, rhagorwyd ar ein targed o 20% sy'n adlewyrchu haelioni Abertawe.
Mae'r arian hwn wedi ein galluogi i greu'r sylfaen ar gyfer casglu ffrwythau yn y dyfodol heb lawer o gostau drwy brynu offer casglu (ysgolion, polion casglu a hetiau caled) a chyfuno gwybodaeth am brosiectau mewn cronfa ddata. Y gronfa ddata yr ydym yn ei defnyddio yw Gleanweb, a gynlluniwyd gan Dick Yates yn Salem, Oregon, UDA. Mae gan Dick flynyddoedd lawer o brofiad o weithio gyda grwpiau casglu sydd wedi bod o fudd mawr i ni. Mae wedi neilltuo amser i sefydlu ein gwefan wych ac rydym yn hynod ddiolchgar iddo! Defnyddir Gleanweb yn eang ar gyfer prosiectau fel ein prosiect yn UDA, ond ni yw'r grŵp cyntaf yn y DU i'w ddefnyddio.
Ein Henw
Ar ddechrau 2021 gwnaethom gysylltu â Helo Blod, gwasanaeth cyfieithu Llywodraeth Cymru i'n helpu i gael cyfieithiad Cymraeg ar gyfer Sweet Pickings. Fel sy'n digwydd mor aml, nid oedd y cyfieithiad llythrennol yn cyfleu natur y prosiect, felly cynigiodd y cyfieithydd opsiynau gwahanol, llai llythrennol, i gyfleu'r darlun ehangach a’r hyn yr ydym yn ceisio anelu ato. Un o’r cyfieithiadau a gynigwyd oedd Cyfoeth y Coed. Dewiswyd hwn gan ei fod yn cyfleu cyd-destun ehangach y prosiect. Fel sy'n digwydd weithiau, roedd y cyfieithiad yn rhagori ar yr enw Saesneg gwreiddiol. Ym mis Gorffennaf penderfynwyd newid ein henw o Sweet Pickings i Cyfoeth y Coed i roi blaenoriaeth i'r iaith Gymraeg, pwysleisio mor doreithiog yw coed, tynnu sylw at werth cnydau sy'n aml yn cael eu hystyried yn wastraff gardd beichus a thynnu sylw pobl at y ffaith bod ffrwythau lleol yng Nghymru ar gael yn rhwydd mewn gwlad sy'n mewnforio'r rhan fwyaf o'i bwyd o dramor.