Cwestiynau Cyffredin

A allaf ddod â'm ffrind?

Cewch! Gwnewch yn siŵr ei fod/bod wedi llenwi'r Ffurflen Cofrestru Gwirfoddolwyr, ac wedi cofrestru ar gyfer y cynhaeaf yn ogystal â chi. Mae angen i ni gadw golwg ar faint o bobl sy'n dod i bob cynhaeaf fel nid oes gennym ormod o wirfoddolwyr, neu ddim digon ohonynt.

A allaf ddod â'm plant?

Gan fod tynnu ffrwythau o goed tal gyda pholion pigo yn weithgaredd a allai fod yn beryglus,  gofynnwn i chi gadw at gymhareb o un plentyn i bob oedolyn a'ch bod yn eu goruchwylio bob amser. Byddwn yn ceisio cynnal o leiaf un diwrnod cynhaeaf yn arbennig i deuluoedd ar safle gyda choed llai. Byddwn yn anfon e-bost yn hysbysu'r holl wirfoddolwyr cyn gynted ag y byddwn wedi nodi safle a dyddiad addas.

A yw'r ffrwythau wedi'u chwistrellu â chemegion?

Yn anaml iawn. Gofynnwn i berchennog yr eiddo a ydynt wedi chwistrellu'r ffrwythau ai peidio, a chyda beth. Rydym yn cynnwys y wybodaeth honno wrth bostio am y cynhaeaf.

Rwy’ wedi llenwi’r Ffurflen Cofrestru Gwirfoddolwyr. Ydw i wedi cofrestru ar gyfer y cynhaeaf?

Ddim eto. Rydych wedi cymryd y cam cyntaf sef roi eich gwybodaeth gyswllt i ni a nodi eich bod yn cytuno â'r Telerau Cyfranogiad. Nawr mae angen i chi ymweld â'n tudalen Cynaeafau . Yma fe welwch yr holl gyfleoedd cynaeafu sydd wedi'u trefnu ar hyn o bryd. Cofrestrwch ar gyfer y cynaeafau yr hoffech eu mynychu. Os nad oes unrhyw gynhaeaf wedi'i restru, yna nid oes un wedi’i drefnu. Dewch yn ôl yn aml i chwilio am gyfleoedd cynaeafu newydd. Byddwn hefyd yn cyhoeddi cynaeafau agored ar ein tudalen grŵp Facebook.

Rwy’ wedi cofrestru ar gyfer cynhaeaf. Pryd fydda i'n cael y cyfeiriad?

  • Ar ôl i chi gofrestru i gasglu ffrwythau ar y dudalen cynaeafau, ychwanegir eich enw at y rhestr waith cynaeafu. Mae'r dudalen yn ymddangos yn syth ar ôl i chi gofrestru yn dangos cyfeiriad y cynhaeaf. Ysgrifennwch ef i lawr cyn i chi fynd i unrhyw dudalen arall.
  • Byddwch hefyd yn cael e-bost gyda dolen i fanylion y cynhaeaf.
  • Gwnewch yn siŵr fod gennym eich gwybodaeth gyswllt fel y gallwn eich rhoi ar y rhestr waith cynaeafu. Os nad ydych wedi cofrestru fel gwirfoddolwr o'r blaen, llenwch y Ffurflen Cofrestru Gwirfoddolwyr. Dim ond unwaith y bydd angen i chi lenwi'r ffurflen hon.

Rwy’ wedi cofrestru ar gyfer cynhaeaf, ac alla’i ddim mynd mwyach. Beth ddylwn i ei wneud?

Mae gan yr e-bost a gewch ar ôl cofrestru ar gyfer y cynhaeaf ddolen ynddo i'w defnyddio os bydd angen i chi ganslo. Mae'r un peth yn wir ar gyfer y rhestr aros. Byddem yn gwerthfawrogi'n fawr pe baech yn canslo os na allwch ddod gan fod hynny'n rhoi cyfle i rywun arall ddod i'r cynhaeaf.

Pam mae'r cynaeafau'n llenwi mor gyflym?

Mae llawer o wirfoddolwyr cofrestredig yn edrych ar y dudalen cynaeafau. Mae'r rhai sy'n gwneud hyn yn aml fel arfer yn mynd ar y rhestr waith. Dyma'r unig le yr ydym yn cyhoeddi cynaeafau sydd ar gael i gofrestru arnynt oni bai bod rheswm dros feddwl na chawn ddigon o wirfoddolwyr mewn pryd. Mae’n ddefnyddiol i rai osod y dudalen cynaeafau fel y dudalen gartref ar eu porwr.

Pam nad oes mwy o gynaeafau?

Mae Cyfoeth Y Coed yn dibynnu ar roddion gan berchnogion coed. Ar ôl i ni gael gwybod bod ffrwythau ar gael i’w tynnu, mae ein cydlynydd yn ystyried gallu Cyfoeth Y Coed i staffio cynaeafu, parcio, a dymuniadau perchennog y tir er mwyn penderfynu sut a phryd y bydd cynaeafau'n digwydd.

Oes angen i mi ddod ag unrhyw beth i’r cynhaeaf?

Dŵr, eli haul (os yw'n heulog neu os gallai fod yn heulog), a bag ar gyfer unrhyw ffrwythau y byddech yn mynd â nhw adref gyda chi. Gwisgwch esgidiau caeedig, a gwnewch yn siŵr eich bod yn gwisgo’n briodol ar gyfer y tywydd. Rydym yn darparu'r holl offer tynnu.

Ydw i'n cael mynd â rhai o'r ffrwythau adref?

Cewch! Rydym yn annog gwirfoddolwyr i fynd â ffrwythau adref. Dewch â bag, neu flwch arall, ar gyfer ffrwythau yr hoffech fynd â nhw adref.

Dydw i erioed wedi tynnu ffrwythau o goeden o'r blaen. Oes unrhyw beth y mae angen i mi ei wneud ymlaen llaw?

Na, cyn belled â'ch bod wedi cofrestru ac wedi derbyn y cyfeiriad, rydych yn barod i fynd. Bydd yr arweinydd cynaeafu’n rhoi'r holl hyfforddiant angenrheidiol ar y safle.

Pryd mae'r tymor cynaeafu yn dechrau ac yn dod i ben?

Mae'r tymor cynaeafu fel arfer yn rhedeg rhwng ganol mis Awst a dechrau mis Tachwedd, yn dibynnu ar y tywydd.

A allaf ddod â'm ci i'r cynhaeaf?

Gofynnwn i bob anifail anwes, ac eithrio anifeiliaid gwasanaeth, aros gartref. Mae'n anodd tynnu ffrwythau a chadw llygad ar eich ci ar yr un pryd, ac nid oes gennym unrhyw hetiau caled maint cŵn.

Hoffwn drefnu cynhaeaf grŵp. A yw hynny'n bosibl?

Wrth gwrs! E-bostiwch info@cyfoeth.org i sefydlu dyddiad ac amser. Gan nad yw’n rhy hawdd rhagweld amseru cynaeafu, fel arfer ni allwn ddarparu cyfeiriad tan wythnos neu ddwy cyn y digwyddiad. Po fwyaf o rybudd ymlaen llaw sydd gennym, y mwyaf tebygol yw y byddwn yn gallu dod o hyd i'r lle perffaith ar gyfer eich grŵp!